Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR

Bu farw Eifion Wyn nos Fercher, Hydref 13, 1926, a chladdwyd ei weddillion y dydd Llun canlynol wrth ochr gweddillion ei rieni a'i chwaer ym mynwent Chwilog.

Ganed ef ar yr ail o Fai 1867, yn y Garth, Porthmadog, ac nid yn Rhos Lan fel y dywedai rhai o'r papurau newydd adeg ei farw.

Yn nechreu'r flwyddyn 1923 pan oedd yn gwella ar ôl cyfnod o waeledd, aeth ati i baratoi casgliad newydd o'i delynegion. Casglodd ynghyd y telynegion sydd yn y gyfrol hon, a threfnodd y cynhwysiad a'r gwahanol adrannau ei hun. Fe ail ysgrifennodd hefyd â'i law. ei hun, gan wella'r iaith yma ac acw, oddeutu tri chwarter cynnwys y gyfrol, ond fe'i lluddiwyd gan wendid corff rhag cwblhau'r gwaith.

Ar ôl ei farw fe ail ysgrifennwyd y chwarter gweddill gan ei fab—Peredur Wyn.

Fe ymgymerais innau â bwrw golwg dros y cyfan, a cheisiais gael yr iaith cyn laned ag y medrwn er mwyn ysgolion Cymru.

Y mae diolch yn ddyledus i Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, ac i Olygydd y WELSH OUTLOOK am ganiatâd i gyhoeddi eto'r telynegion a gyhoeddwyd eisoes ganddynt hwy, a hefyd i Messrs. Boosey & Co. Ltd. am eu caniatâd cyffelyb hwythau ynglŷn â'r delyneg, "Yr Hufen Melyn," a gyhoeddwyd yn" Welsh Melodies, edited by Lloyd Williams and Arthur Somervell." Part 2.

Yr wyf yn ddiolchgar hefyd i Mr. W. Rowland, M.A., Porthmadog, am iddo fy helpu i gywiro'r proflenni. Fe gyhoeddir cyfrol o gerddi caeth y bardd cyn bo hir.

HARRI EDWARDS.
Porthmadog,
Chwef. 11, 1927.