Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A chyfwr' ddiwrnod cneifio
I sôn am gampau'r cŵn,
Gan fyw wrth nant y mynydd,
A marw yn ei sŵn.

Caed eraill faen o fynor,
A thorch o flodau ffug;
Ond gwell gan Mot a minnau
Gael beddrod yn y grug.