Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y SIPSIWN.

Gwelais ei fen liw dydd
Ar ffordd yr ucheldir iach,
A'i ferlod yn pori'r ffrith
Yng ngofal ei epil bach;
Ac yntau yn chwilio 'r nant
Fel garan, o dro i dro,
Gan annos ei filgi brych rhwng y brwyn,
A'i chwiban yn deffro'r fro.

Gwelais ei fen liw nos
Ar gytir gerllaw y dref;
Ei dân ar y gwlithog lawr,
A'i aelwyd dan noethni'r nef:
Ac yntau fel pennaeth mwyn
Ymysg ei barablus blant,—
Ei fysedd yn dawnsio hyd dannau 'i grwth,
A'i chwerthin yn llonni'r pant.

Ond heno pwy ŵyr ei hynt?
Nid oes namyn deufaen du,
A dyrnaid o laswawr lwch,
Ac arogl mwg lle bu:
Nid oes ganddo ddewis fro,
A melys i hwn yw byw—
Crwydro am oes lle y mynno ei hun,
A marw lle mynno Duw.