Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac ar y weirglodd honno,
Ymysg y meillion brith,
Mi welais megis enfys
A'i godre yn y gwlith.

'Ro'wn fel un yn breuddwydio,
Nes daeth i'm cof fod rhai
O dan y blodau ffarwel
Cyn bore Calan Mai.