Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GŴYL IFAN.

Rhed y goferi
I'w dawns dan y deri,
A minnau a wn mai Gŵyl Ifan yw hi ;
Clywch y per sisial
Hyd raean o risial,
A siffrwd y llafrwyn ar eddi y lli.

Mae y coedlannau
Dan wyrddion lumanau
Am ddyfod o hirddydd Mehefin i'w oed;
Clywch y chwibanu,
A'r loddest o ganu,—
Ni chlybu Rhiannon well ceincio mewn coed.

Pery'r chwedleua
Ar faes y cynhaea,
Nes cyfyd y lleuad ar faenol a llwyn:
Rhowch im fy ngwyliau,
Mae'r chwa fel y diliau,
A glan pob afonig yn lan medd 'dod mwyn.