Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CADW NOSWYL.

Aeth â'i gŵys i ben y dalar—
Cwys uniona'r tir;
Yna troes i'w fwthyn gwledig,
Wedi'r dwthwn hir.

Ni ddaeth mwyach dros yr hiniog
Ofnai wynt yr iâ;
Ac ni chafodd, er deisyfu,
Weled dechreu ha.

Maith a chaled fu ei lafur,
Aml ei gur a'i graith;
O'i fachgendod, prin y gwybu
Ond am gwsg a gwaith.

Nerth ei ewyn i bob meistr
Ym mhob man a roes;
Ar ei wely marw y cafodd
Hwyaf saib ei oes.

Nid oedd ganddo fawr o geiniog,
Er llafurio cyd;
Ond bu fyw yn ddoeth, a medrodd
Dalu ei ffordd trwy'r byd.

Am ei waith a'i fuchedd onest
Erys, cof yn hir:
Acth â'i gŵys i ben y dalar,
Cwys uniona'r tir.