Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y GWEINIDOG DA.

A'r Eifl o dan eu blodau,
A'r meysydd dan eu grawn,
Hebryngem di o'th henfro dlos,
Yng nghynnar wyll y nawn.

Ni fynnai'n serch dy ollwng,
Er bod yr oed mor faith;
Nid aethit tithau, ond ar air
Y sawl oedd biau'r gwaith.

Gwas y Goruchaf oeddit,
A'r gostyngeiddiaf un:
Bu d'ofal am Ei enw Ef,
Nid am dy fri dy hun.

Mil gwell na'r aur colladwy,
Mil gwell na moliant gwlad,
Gan d'enaid ydoedd serch y saint,
A distaw glod dy Dad.

Nid prin a fu dy lafur,
Er lleied oedd dy dâl;
Nid prin, er bod y daith yn drom,
A phraidd y nef ar chwâl.

Ti ddygaist bwys y gaeaf.
A dygaist wres yr ha,
Heb ballu dim: mawrheit y fraint
O fod yn fugail da.

Ymlwybrit rhwng y bryniau,
Dan ganu fel y nant;
Tywysog oeddit gyda, Duw,
A phlentyn gyda'r plant.