Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CATHL Y GWAHODD.

Gŵyl fy mhriodas yw,
Gŵyl cyrchu 'nyweddi wen;
Mwyn fo yr oriau fel breuddwyd pêr,
A glas hyd y nos fo'r nen:
Deuwch, belydrau haul,
Mewn trwsiad o aur bob un;
Dawnsiwch eich dawns fel y tylwyth teg
Ar eurgylch priodas fy mun.

Hir fu ymaros serch,
A Duw a faddeuo 'r oed,
Er mwyn yr hoffter rhwng blodau'r allt,
A'r cariad o dan y coed:
Deuwch, chwi adar cerdd,
Llateion fy awen i,
Cethlwch y ddyri ddifyrraf erioed,
Er gwybod mai'r hydref yw hi.

A deuwch, bwysïau'r grug,
O ffriddoedd y mynydd draw;
Cenwch eich clych ym mhriodas Men,
A gwridwch ddau fwy yn ei llaw:
Ni fyn fy nyweddi wen
Mo'i dewis o flodau'r ardd;
Gwell ganddi swp o ffiolau'r mêl,
Y fflur aeth â chalon ei bardd.

Gŵyl fy mhriodas yw,
Ar lonnaf o ferched cân;
Na sonier am Forfudd yr undydd hwn,
Na'r wenferch o Ddinas Bran:
Rhoed Cymru ar faes a môr
Un byrddydd i sôn am Men;
Gwinwryf fy oes yw ei deufin hi,
A'm heulwen yw gwallt ei phen.

Capel Helyg, 1907.