Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HIRAETH.

Harddwch yr hydref oedd ar y dail,
A'i siffrwd yn nefni 'r coed;
Ac yntau'n sefyll yn erw'r llan,
A briw y bedd wrth ei droed.

Unig ar wyneb y ddaear oedd,
A thrist oedd ei lonnaf wên;
Ac yn ei ddagrau 'r oedd serch ei oes.
A hiraeth anaele 'r hen.

Tlysni ni welai ond tlysni 'r wedd
Oedd mwyach i bawb ynghudd;
A swyn ni chlywai ond swyn y llais
A dawsai ers llawer dydd.

Harddwch yr hydref oedd ar y dail,
A'i siffrwd yn nhôn y gwynt;
A'i gartref iddo mor oer â'r bedd,
A'r bedd fel ei gartref gynt.