Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ym mynwent y pentref gerllaw,
Mae'r fam a adwaenwn erioed;
Yughwsg o dan lygad y nef,
Ynghwsg o dan gysgod y coed,
A'r garreg dan ddagrau 'r coed:
Mi garaf y lle er ei mwyn,
Na chaffed ei beddrod un cam;
Dan ofal angylion, yng nghysgod yr yw,
Gweddiaf, yn ymyl fy mam,
Mai melys fo cwsg fy mam.