Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YMSON MAM.

O na chawn ei ben bach cynnes
Eto i nythu yn fy mynwes,
O na chlywn ei isel chwerthin yn ei grud:
Cym'rai pawb ef yn eu dwylo,
Gan ei fwytho a'i anwylo,
Ond ei fam oedd biau'i galon fach i gyd.

Am chwe blynedd melys, melys,
Sipiwn fêl o rôs ei wefus—
Cân a chusan bob yn ail oedd bywyd im :
Dyma'i gap, a'i bais fach resog,
A dwy bleth o'i wallt modrwyog
Sydd yn cadw fel yr aur heb ddylu dim.

Ugain fydd ei oed eleni,
A phan ddelo dydd ei eni,
Daw o'r dref i'r hen hen aelwyd yn y wlad :
Aiff â mi am dro yn dirion,
Hyd y ddôl, a thros yr afon,
Gyda'i fraich yn dyn am danaf fel ei dad.

Gwn ei fod yn dal a hoyw,
A'i Gymraeg yn bur a chroyw,
Ond maddeued onid wyf mor wyn fy myd:
O, na chawn ei ben bach cynnes
Eto i nythu yn fy mynwes,
O na chlywn ei isel chwerthin yn ei grud.