Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CANU'N IACH I'R GOG.

Mi'th welais ddoe ddiwaethaf,
Wrth ymyl camfa'r waun,
A'th lygad ar y glasfor,
A'th adain las ar daen.

A fory byddi 'n cychwyn
O frig y ceubren crin,
Am fro yr aurafalau
A gerddi teg y gwin.

O fyrred fu dy dymor!
Fel doe yw'r bore mwyn
Y'th glywais yn cyweirio
Dy dannau yn y llwyn.

A chanu y buost wedyn
Bob diwrnod ar ei hyd,
Fel pe na bai dorcalon
Na hiraeth yn y byd.

Hyd oni chlywaist siffrwd
Y bladur ar y ddôl;
Hyd oni welaist drannoeth
Yr archoll ar ei hôl.

Ac yna tewi a wnaethost,
A mynd fel finnau'n fud,
Fel pe na bai lawenydd
Na chwerthin yn y byd.