Wel, cyn dy fynd y fory, Eheda i droed yr allt, I dorri cainc o redyn. 'Run lliw â phleth fy ngwallt: A dwg hi yn dy ylfin O Gymru gyda thi, A dod hi'n esmwyth, esmwyth, Ar fedd fy nghariad i.