Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HEDDWCH.

Siglwch y tyrau, soniarus, glychau,
Chwerddwch ar fôr a thir;
Cenwch eich newydd gainc o lawenydd,
Ar ôl eich mudandod hir:
Onid yw'r creulon heb deyrnllys na choron,
A'i enw yn wawd pob bro?
Onid yw ciwdod ei feilch eryrod
Fel petris y maes ar ffo?

Siglwch y tyrau, soniarus glychau,
Chwerddwch dros feirw a byw;
Chwerddwch, er cofio y rhai sydd yn wylo-
Dydd rhyddid y ddaear yw :
Oerodd y gynnau, a belgwn angau
Dawsant cyn anterth dydd;
Dyblwch eich canu, nid trais a orfu,
Ond iawnder a dynion rhydd.

Siglwch y tyrau, soniarus glychau,
Digon fu'r pridwerth drud;
A digon fu loesion blodau'r marchogion-
Cenwch orfoledd byd:
Chwithau glogwyni fy hen Eryri
Unwch ym mloedd y gân ;
Ac fel yn ieuenctid a balchter eich rhyddid,
Dyrchefwch eich pennau tân.

Tachwedd, 11, 1918.