Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Do, bum yn Ffrainc. A gwae fyfi
Na bawn yn un o'i herwau hi
Fel deufrawd imi, a chroes fach wen,
Croes ola 'mywyd, uwch fy mhen;
A'm dwylaw hyn lle nid oes gwaith,
Na gwybod, na dychymyg chwaith.

Hir boen y rhyfel heibio aeth,
Ond heddyw gwn am boen sydd waeth—
Y boen o ddisgwyl ofer, hir,
A byw fel clerwr yn y tir;
Heb obaith bara, gobaith gwaith,
Nac unpeth am fy mhoen, ond craith!

O maddeu, maddeu im, fy Nuw,
Am ofni marw, a chwennych byw.

1920.