Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CAINC Y DELYN.

Rho gainc ar dy delyn
Bob dygwyl o'r flwyddyn
I froydd y dwyrain a'r de:
Ond myn di mai Cymru
Yw'r hawddaf ei charu,
I'r galon a fo yn ei lle.

Rho gainc i wyryfon
Llygatddu yr estron,
A'u serch fel eu dwyrudd ar dân;
Ond myn fod rhianedd
Yng Ngwent ac yng Ngwynedd,
Fel Morfudd a Merch Dinas Bran.

Rho gainc i bob heniaith
A glywi wrth ymdaith
Hyd diroedd prydferthwch a llên;
Ond myn i ti ddysgu
Un amgen yng Nghymru—
Un geri yn ieuanc a hen.

Rho gaine i bob ynys,
A thir peraroglus—
Cyfannedd yr heulwen a'r ha;
Ond myn fod ei henfro
Yn fwynach i Gymro
Yn anterth y rhewynt a'r ia.

Rho gainc i berlysiau.
A phalm y trofannau,
A gwyddfid y gwledydd i gyd :
Ond myn fod yng Nghymru
Geninen yn tyfu
Sy'n hoffach na dim yn y byd.