Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AR DDADORCHUDDIAD.
Cofadail Tom Ellis yn y Bala, Hydref 7, 1903.

Wele golofn ein tywysog
Wedi ei diosg yn flodeuog,
Wele ninnau 'n llu banerog
Yn ei hymyl hi:
Colofn dân i genedl gyfan
Well na choelcerth ar yr Aran,
Oni chafodd ei chyhwfan
Er ein harwain ni:
Yma'n un y deuthom
Uner Cymru ynom;
Edrych Duw o'r gloywder glas,
Ein teyrnas, a'n plant arnom :
Cofiwn bridwerth drud ein breiniau,
Gwnawn gyfamod ar y beddau.
A chyfodwn yr allorau
Brynodd inni 'n bri.

Heddyw De a Gogledd wrendy
Gadlef newydd yn dyrchafu—
Onid ydyw wyneb Cymru
Bellach ar y byd?
Mynnwn erddi fod yn arwyr,
Mynnwn ymdaith yn gymrodyr;
Aelwyd gwerin o wlatgarwyr
Fyddo'n gwenfro i gyd:
Erw las ym Meirion
Eilw law a chalon
Pob rhyw ŵr a gâr ei wlad
I'r euraid gad yr awron:
Byddwn un mewn ffydd ddiderfyn,
Un mewn grym fel lli Tryweryn—
Ysbryd Cynlas fo'n ein canlyn
Heddyw, ac o hyd.