Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CAINC YR HEN DELYNOR.

Gerllaw y llannerch werdd
A geidw fedd Llywelyn,
Eisteddai hen delynor mwyn,
A'i bwys ar gorn ei delyn:
Ei lesg anesmwyth law
A dynnodd dros y tannau,
A chân o serch a ganodd ef
Dan nawdd y nef a'r bannau:

"Hen fro y tywysogion pur,
A'r llysoedd syml eu swyn;
Ti gefaist feibion wrth y fil
I farw er dy fwyn:
Gwell gan dy blant dy erwau blin
Na pharthau'r gwinwydd pêr:
Ac yn dy iaith trwy'r oesoedd maith
Hwy folant enw eu Nêr."

'Hen fro y delyn, er cyn cof,
A bro'r alawon gwin;
Ar nos y wledd a dydd y gad
Dy fawl oedd ar dy fin:
A thra bo bardd o'th fewn yn byw,
Ac yn dy dymer dân,
O'th fythod llwm mewn tref a chwm
Y cyfyd mwynllais cân."

"Hen fro y werin bur ei serch—
Fel pawb a gâr dy fri,
Ar Dduw gweddiaf yn Gymraeg
Am oes y byd i ti:
O, cadw ffydd dy gyntaf Sant,
A ffydd dy Olaf Lyw;
A heddwch hir a fo i'th dir.
Dan nawdd a thangnef Duw."