Meddai: "Rhydd Iôr y moroedd ei heddwch a'i nodded i'th enaid,
Madog, fy mab a'm hyder, Duw Iôr a'th fendithio di!"
Tawodd, a'r don ar y tywod, a'r awel yn crio'u hiraeth,—
Iôr! ai anesgor hiraeth hyd byth ydyw enaid bod?
IV
Gwenai haul euraid y gwanwyn ar dir ac ar don yn esmwyth,
Unig oedd glannau Menai, llong nid oedd mwy ar ei lli;
Yngo, fel cynt wrth ei angor, neu'n hwylio, ni welid Madog,
Tawel oedd traeth y Belan, a mud ydoedd glannau Môn.
Parod i gyfarch cyfodiad y dydd ydoedd deg o longau,
Trichant o wŷr am yr antur faith a wynebai fôr,
Madog, a fflam ei hyder a'i awydd yn gloywi ei lygaid,
Mabon mor fwyn ei wyneb, Dduw! onid tawel oedd ef!
Gŵyrai yr haul tua'r gorwel, a'i li, ar len y gorllewin,
Eiliodd, o darth a chymylau, lun rhyw ddigymar wlad;
Glynnoedd a'u lloriau'n disgleinio fel aur trwy bileri grisial,
Ceyrydd a thyrau cwrel, neu dân, ar glogwyni dur;
Afon lydanfron o ufel dihalog, a dulas goedydd,
Porffor ynysau'n gorwedd ar li megis saffir len;
Ewyn o dân yn ymdonni ar odre rhyw wydrog greigiau,
Tawel fân draethau annelwig draw fel dan gawod ros;