Newid yn dibaid gyniwair hyd wedd y diddim brydferthwch,
Megis pedfai'n ymagor ddrych newydd fydoedd yr Iôr!
Pylodd ysblander y pelydr, araf ymdorrodd y lledrith,
Taenodd rhyw wyrddliw tyner, drwy nef tua'r dwyrain aeth;
Gwrym ar y gorwel a welid, rhimyn ar ymyl y tonnau,
Rhith ydoedd Cymru weithian, rhyw darth rhwng awyr a dŵr;
Megis mewn ing yr ymwingodd hwnnw, a'i ganol yn duo,
Yna, llwyr yr edwinodd, mwy, ym mhellteroedd y môr;
Trechwyd y dydd hyd entrychion y nefoedd gan ofwy'r ddunos,
Chwalwyd ei gad a chiliodd hon dros ymylon y môr,
Yntau, wrth ddianc, ysgeintiodd wreichion ar uchaf ei thresi,
Luoedd, oni oleuwyd â thân ei llywethau hi!
Diwyd a hir fu'r mordwyo hyd eigion nas digiai awel,
Haul yr haf ar yr heli, a lloer yr haf ar y lli;
Hwyl ar y gorwel ni welid, na thir na tharth ond annelwig
Firagl yr haul ar foroedd draw wrth ymachlud yr hwyr;
Hir fel anadliad oedd araf ymod gwyrdd owmal y tonnau,
Megis plisgyn yn mygu maith ymystwyrian y môr.
Darfu cynefin dyrfau y morwyr, a'u miri calonnog,
Cynnar na hwyr nid oedd canu i'w mysg, na chwerthin, mwy;
Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/104
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon