Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Taerach uchenaid hiraeth nag araith y geiriau hyotlaf,
Llawer calon a grynai pan gofiai Fenai neu Fôn!
Madog, yng ngrym ei hyder, ei obaith ni wybu ddiffygio,
Mabon mor fwyn ei wyneb, Dduw! onid tawel oedd ef!

Un dydd, ar y meithion donnau, â hi yn brynhawn, disgynnodd
Distaw ddisyfyd osteg, cwsg fel am bopeth yn cau;
Awel a huan dan lewyg, a'r heli a'r hwyliau'n llonydd,
Mudan a diymadferth oedd maith unigrwydd y môr;
Golwg pob dyn ar ei gilydd, holai ba helynt oedd agos-
Eigion, pan ddatlewygo, dyn ni ŵyr ddyfned ei wae!
Yna, o'r awyr y rhuodd rhyw drwmp hir draw'n y pellteroedd,
Taenodd iâs dros y tonnau a gwyllt fu brysurdeb gwŷr;
Eiliad na threfnwyd yr hwyliau, a byrr cyn berwi o'r dyfroedd,
Yna, tarawodd y trowynt nef ag eigion yn un.
Llanwyd y nef â dolefau tafod cyntefig y tryblith,
Ochain ag wylo a chwerthin croch yn nhraflwnc y rhu;
Hwythau y llongau, oedd weithian fel us o flaen ei gynddaredd,
Trochent yn niflant y rhychau a chrib y mynyddluwch rhwth,
Mawr yr ymladdai'r morwyr yn nhwrf y cynhyrfus elfennau,
Dreng gyfarfod â'r angau, cad heb na gobaith nac ofn;
Drylliwyd y môr yn droëllau, treiglwyd trwy wagle'r ffurfafen,