Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A'r dre ar y llain ar odre'r llwyni,
Lle er cyn cof yr oedd Plant Arofan
Yn bwrw eu byd yno'n bur heb ado
Y bywyd dedwydd a wybu eu tadau-
Hela, bugeilio, fel y bai galwad,
Dioddef a byw yn ôl deddfau bywyd,
Heb ofni methiant, heb ofyn moethau,
Heb fynnu trais a heb ofni treisiwr ;
Magu o do i do yn dawel
Feibion nerth a merched prydferthwch;
Adrodd hanesion dewredd hen oesau,
Bod yn astud a gwybod iawn ystyr
Geiriau y doethion a'r gwŷr da hwythau,
A dirgel feddwl eu mydr gelfyddyd;
Gwrando ar addysg rin y Derwyddon,
Hwy, a adwaenai'r duwiau eu hunain,
O do i do a gadwai'n y deall
Y ddysg ryfeddod nad gwiw ei dodi
Ar faen na choed mewn ysgrifen i'w chadw.

O! ddiddaned y dyddiau oedd yno,
Yn nistaw ddirgel fforestydd Argoed!
Ni wyddai hi, yn ei hen ddyhewyd,
Dynnu Gâl o dan wadnau ei gelyn,
Edwino eisoes fri ei dinasoedd,
A dyfod ystryw a defod estron
I ddofi ei hynni, i ddifa heniaith
A hen arferion ei chynnar fore.