Argoed, Argoed y mannau dirgel . . .
Onid yno y ganed awenydd,
Hwnnw a ganodd ei hen ogoniant,
A drodd hanesion dewredd hen oesau,
Geiriau y doethion a'r gwŷr da hwythau,
A dirgel foddau eu mydr gelfyddyd,
Yn newydd gân a gynyddai ogoniant
Ei wlad a'i hanes, a chlod ei heniaith?
A balch oedd Argoed fyned ei phrydydd
I lysoedd Gâl a seddau ei golud,
Yno er adrodd cadarn wrhydri
A moesau arwyr yr hen amseroedd,
Hen ogoniant a rhamant ei genedl
A hwythau'r duwiau yn rhodio daear.
Argoed, Argoed y mannau dirgel,
Dirfawr o ddydd fyddai'r dydd y dychwelai
Hwnnw yn ei ôl gan ddwyn ei wala
O roddion a bri, oedd iawn wobrwyon
Y newydd gân a luniodd i'w genedl
Yn nistaw ddirgel fforestydd Argoed,
Argoed, Argoed y mannau dirgel.
III
Un nos, o lys yn ninas Alesia,—
Y gaer a arafodd rwysg aerwyr Rhufain,
Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/111
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon