Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Argoed, Argoed y mannau dirgel,
Ble'r oedd dy fryniau, dy hafnau dyfnion,
Dy drofâu tywyll, dy drefi tawel?
Tawel dy fyd nes dyfod dy dynged
Hyd na welid o'i hôl ond anialwch
Du o ludw lle bu Argoed lydan.
Argoed lydan... Er dy ddiflannu,
Ai sibrwd nerth dy ysbryd anorthrech
O ddyfnder angof a ddaw pan wrandawer...
Pan fud wrandawer di-air leferydd
Y don o hiraeth yn d'enw a erys,
Argoed, Argoed y mannau dirgel?