Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y GYNNEDDF GOLL

Un dydd o haf hirfelyn ydoedd hi
A'r byd yn llawn o dwrf yr arfau dur,
A haul o'r awyr las yn bwrw ei li
Fel ambr i adfail brydferth Ystrad Fflur,
Breuddwydio yno ennyd 'roeddwn i
Dan gysgod bedwen las a dyfai yn y mur.

Gwelwn yn dyfod ataf Fynach Llwyd,—
A mwyn weld eto un yn Ystrad Fflur,
Ag yn fy ysbryd innau fyth ryw nwyd
O gariad at yr Urdd fu gynt yn bur
I wlad fy nhadau. Rhodiai drwy y glwyd,
A'i ben i lawr a'i gam fel un a wybu gur.
Ai ysbryd oedd efô o'r dyddiau fu
I'w hen gynefin gynt a roddai dro
I weled eto olwg ar y tŷ
Yn ddarnau breg, fu gynt yn addurn bro?
Bron nad amheuwn, ond fod cysgod du
A ddôi, o gam i gam, yn nes i'w ganlyn o.

Mi welwn drem ei lygaid dyfnion dwys,
A chlywais fendith llais oedd fwyn a llawn;
Eisteddodd yntau yno ar fy mhwys,