Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac aeth yr oriau yno'n fuan iawn,
O hawl i ateb, yn y gloywder glwys,
A diau, rhyfedd oedd ei eiriau ef a'i ddawn:

"Hyd lwybrau'r hudol, obry, cerddais gynt,
Yn nwyd fy mreuddwyd am a roddai'r dydd;
Disgynnai golau gobaith ar yr hynt,
A'r antur yno a'm disgwyliai'n gudd;
Peroriaeth rhamant oedd yn sŵn y gwynt―
Ond trist oedd drengi draw dinc olaf clychau'r ffydd.

A glywn i eto fyth y beraidd dôn
Brudd dyner honno, gydag awel hwyr?
Meddyliais. Ond, meddalwch ydoedd sôn
Am gân y gloch, neu fflam y gannwyll gŵyr,
A rhyfedd fyd i'w olrhain hyd y bôn,—
Goresgyn tarth a chlai, a roddai ryddid llwyr!

Tawodd y clychau, a rhyw hanner hud
Ynof yn dal, fel ofn, ei afael ef,
A rhywbeth fel yn sibrwd im o hyd
Fod daear yno'n wir fel darn o nef,
Ond draw o bell y galwai antur byd,
A boddai adlais gwan y gloch, â'i donnog lef.

Ba waeth am ronyn? Yng nghythryflus ru
Y dref, nid oeddwn onid un o fyrdd;
Diau nad unig onid un o lu—