I agor dôr ar ddirgelderau byd;
I'r dyfnder obry a'r uchelder fry,
I'w chwilio trwyddyn' oll, y treiddiai hwn o hyd.
O'i amryw ddysg y dygai hwn i ddyn
Ryw lif a alwai ef yn olau gwiw;
Eglurai drwyddo'r bydoedd fry bob un,
I fymryn, rhôi ei le a'i lun a'i liw;
Yna rhyfeddai at ei gamp ei hun,—
Ac eto'r fawrddysg hon a adai'r fron yn friw.
Olrheiniodd gynnydd deunydd dyn, a rhoes
Ei rwydau mân er hudo mellt y nef;
Pellterau maith, a'i gamp yn ddim y troes,
Ag awyr las yn ufudd gario'i lef;
Oni ddôi'r gair a leddfai'r ing a'r loes
Yn nhynged dyn, ryw ddydd, o'i ddawn aflonydd ef?
Yn ôl egluro geni pob rhyw fyd,
A llwyr esbonio nad oes da na drwg,
Tynghedfen, meddai, yw y daw rhyw bryd
Y chwelir bydoedd eto'n darth a mwg,
A'u llunio eilwaith—llyna olaf brud
Dewin y chwalu mawr, o'r chwilio maith i gyd.
Trysorau anian, treisio'u rhinwedd hwy
A wnaeth a'u dwyn i weithio dan ei farn,
A'i wobr fu iddo—ba ryfeddod fwy?
Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/120
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon