O ddwyfol waith, oedd hafal hyn o ddarn?
Ond pan ddaeth drosto'r hen gynefin glwy,
Troes olud oesau fil o dan ei sodlau'n sarn.
Er nad drwg hanfod o anghenfil dras,
A dringo'n hy drwy angen, ofn, a haint,
Ai nod y dringo oedd fodloni cas
A bâr, na wybu darpar dyn ei faint
Pan gâi ar waed ei elyn greulon flas,
Pan rwygai irgig byw â chrafanc lem neu ddaint?
Er iddo am wareiddiad godi ei lef,
A honni trechu anian â'i hystôr,
Er medru hoyw ehedeg trwy y nef,
A dysgu nofiad is gwaneifiau môr,
Er maint ei lafur, a feistrolodd ef
Namyn cyfeirio grym, drwy gau neu agor dôr?
Yn ôl y boen a'r gamp i gyd, ni bu
Ond difyr fwyniant ofer funud awr,
A byw yn ôl rhyw fân ddefodau lu,
Ai gwneuthur hynny oedd y rhinwedd mawr?—
Fel ewyn a fo loyw, ac yno a ffy,
Neu wawn o'r golwg êl i gyd pan gilio gwawr.
Paham y credais innau'r ofer gri?
I beth y ceisiais i wybodau byd?
Ai fel y byddwn ddoeth, o'm holid i,
Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/121
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon