Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A gwenu'n falch, a sôn am goel o hyd?
Bid balch ein hoes. Beth am ei doethrin hi?
Gwybod, a gwedi gwybod, gwadu gobaith drud?

Caseais innau holl eglwysau gwlad,
A'u duw nad oedd ond syniad oer, di-lun,
A wyddai roi i bridd ddi-wae barhad,
A berroes ddall, heb air sy ddim, i ddyn,
Oni ddymuno lunio iddo lad
A meithrin hyder mwy o'i fympwy ef ei hun.

Ac o neuaddau dysg y newydd do,
Am nad oedd imi yno onid siom,
Fel eraill, ciliais innau yn fy nhro
I geisio'r gwir, ar lawer antur lom;
Hir, hir, fydd pob ymaros iddo fo
A chwilio yn y drain a'r gwyll â chalon drom.

Un hwyr gaeafol oedd, a gwyll y nos
Yn toi y byd, a'r gwynt, trwy ddagrau'r glaw,
Yn udo'n greulon hyd yr anial ros,
Megis rhyw ysbryd coll, na wyddai daw,
A'r nef ei hunan megis pedfai ffos
Yn boddi pwll y byd a'i merddwr di-ben-draw.

Ar draws siglennog ros, drwy laid a lli,
Y crwydrwn eto'n chwiliwr trwm ei fryd;
Ni wyddwn amgen, mwy, na'm bod o ri