Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ymhell cyn bod gair ar dafod anystwyth,
Na dim ond cri bodd neu ofni'n ymlunio.

Yn awr gwawr lwyd newydd arswyd anwybod
Rhag gallu'r drwg oedd o'r golwg yn llechu,
Rhag nerth a gwg du dywyllwg yr hirnos,
Rhag cadarn fâr dyfnder daear gythryflus,
Rhag lleisiau croch wybr wag ddugoch dymhestlog,
Rhag grym y llid fyth nas gwelid â llygad,
Ac nad oedd ffo, nodded rhagddo, na dianc,
Na modd i ni fyth na'i lochi na'i herio!

Pan gurwyd tân gyntaf allan o'r garreg,
Pan naddwyd pren â llafn llechen gyllestrig,
Pan ddodes dyn saeth ar linyn, a'i gyrru,
A maen ar saeth drwy hir arfaeth aflonydd;
Pan gaed, o raid llaw a llygaid a newyn,
Wreiddyn pob cais, cof, a dyfais cyfrwystra,
Pan aned pwl rithiau meddwl a'i egin,
Y pryd pan aeth eisiau'n hiraeth a hoffter.

Pan luniodd cri ystyr iddi ei hunan,
A dwyn, yn hwyr, o sain synnwyr i'w chanlyn,
A throi yn rhydd glo lleferydd crynedig,
A seinio'r Gair di-lyffethair a dwyfol !-
A edrydd raid didranc enaid gwahanfod,
A geidw ynghŷd rin yr ysbryd tragywydd,