Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

With ddysgu'r Gair,—
A dynnai bawb, ag ef yn dair ar ddeg,
I weled iddo ryw ddyfodol teg,—
A ddringodd risiau'r ysgol hyd ei phen,
A'i yrfa megis llen
Heb arni staen; ac yna, mewn un dydd,
A'i duodd hi am byth drwy wadu'r Ffydd?
Ai mab i mi?—Na! "Gwae fyfi erioed
Ei eni!" Meddwn.

Clywais sŵn ei droed.
Berwodd fy ngwaed, ac eiliad im a roes
Un aruthr olwg ar oferedd oes,
Ar lafur, gofal, gobaith, gweddi tad,
Yn prifio'n deg, a'r ffrwyth yn profi'n frad!
Agorodd drws y tŷ,
Ac fe ddaeth trwyddo o'r tywyllwch du
Beth duach filwaith—Suddas, yn ei frad,—
Ac meddai, "O! nos dawch, fy nhad!"

Tad: Lle na chaffer mab ni cheffir tad!
Un gair a wyddwn. Ysgyrnygais: "Brad!"
Ac yna, daeth y geiriau imi'n fflam
Nes llosgi'r croeso ar ruddiau coch ei fam
Yn lludw gwelw. Meddwn wrtho: "Dos
Yn ôl i ganol dy dragwyddol nos,
A bydded bythoedd ar dy ben dy waed,
A ffydd dy dadau'n sarn o dan dy draed!"