Medd yntau, gyda gwên:
"Felly! Mi af, rhag gwae'ch trugaredd hen,
A'ch cariad perffaith, sydd yn berffaith gas!"
Aeth trwof eto ffyrnig iâs,
A daeth y geiriau'n llif: "Onid myfi,
Fore a hwyr, a chwysodd erot ti?
Ai ffrwyth fy mhoen, ymhell o olau dydd,
Fu magu bradwr i fradychu'r Ffydd?"
Gweddïais, do, am weled barn y nef,
With orfod gwrando ar ei ateb ef:
"Felly y bu eich dewis,—nid myfi
A geisiodd gaffael hynny gennych chwi;
Mynnech roi imi ddysg, a minnau, mwy,
Ni allaf ddal i draethu'r twyll yn hwy;
Am hynny, mynnwch edliw imi'r pres—
Fe'u talaf, fel na ddarffo'ch unig les,
Ac fel na boch, tra byddoch byw,
Fel finnau, druan, heb un duw!"
Yr eiliad nesaf—Duw a wyddai pam—
Disgynnodd megis pren, wrth draed ei fam,—
A gwelais yn ei llygaid hithau dân
Dieithr, a losgodd ffrwd ei dagrau'n lân!
Daeth dychryn arnaf. Gelwais arno'n groch.
O'i ffroen, dylifai gwaed yn llinyn coch.
Ymeflais yn ei fraich, ysgydwais ef.
Ni roddes dro, na llef.
Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/133
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon