Drwy'r drws agored, rhythai gwyll y nos.
Tybiais glywed rhyw lais yn gweiddi: "Dos,
Ymguddia fel na'th welo lygad dyn,
A'th law yn goch gan waed dy fab dy hun!"
Dihengais. 'Roedd y nef i gyd yn ddu,
A'r ddaear gan yr eira'n wen i gyd.
Och! Dduw, paham y gwynnaist tithau'r byd
A duo'r nef? Pa ryw uffernol lu
A'm chwyrn ganlynai? Rhuthrais yn fy mraw,
A llosgai gludiog leithder coch fy llaw!
II
Megis mewn breuddwyd, clywais lais fy mam
Yn wylo, ac yn galw arnaf i;
I'm llygaid daeth y dagrau; gwelwn hi
Yn plygu uwch fy mhen. Ond cofiais am
Y ddadl a'r dyrnod. Neidiais ar fy nhraed,
A gwelais fod arffedog 'mam yn waed.
Aeth iâs im dwyffroen fel angerddol fflam,
Ac yna, ar un cam,
Diflennais innau drwy'r agored ddôr,
A'm pen yn llawn o ru fel sŵn y môr,
A dial yn fy ngwaed—holl wae fy oes
Yn don ar don, ac annioddefol loes
Yr anghyfiawnder—edliw imi'r pres
A roed o falchter rhagrith er fy lles
Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/134
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon