Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I foddio hurt hygoeledd mintai gul,
A llunio duwiau deirgwaith bob dydd Sul!
Ba le yr awn? Ni wyddwn i fy hynt,
Ond rhuthrwn fel y gwynt,
Ie, fel gwynt, ond megis gwynt ar dân,
Drwy eira oedd yn eirias wreichion mân,
Hyd oni sefais yn fy ffyrnig loes
Rhwng muriau hen Fynachlog Maes y Groes.

Aeth drosof donnau chwyrn o boeth ac oer,
Ac yno, wrth oleuni claf y lloer,
Lle syrthiai ar y mur ei llewych hi,
Yr wynebasom eilwaith, ef a mi.
Penlinai yno, yn yr eira mân,
A'i ddwylo ymhleth. A aeth yr ôd yn dân?
Bytheiriais eiriau chwerwon yn ei glyw:
"A ydyw'r gwaith yn haeddu bendith Dduw?
A faddau ef yr holl oferedd ffôl—
A ddaw y geiniog sanctaidd eto'n ôl?"

"Taw!" meddai yntau, "od wyt eto fyw,
Hyd angau, amddiffynnaf enw Duw;
Na threigled hwnnw dros dy wefus di;
A deall nad oes dim nas beiddiaf i!"

Meddwn: "Ai rhaid i'w enw eich nodded chwi?"
A chwerw y chwerddais i.
Llamodd i fyny. Ni wn i beth a fu,