Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ond safodd ef a minnau o'r naill du.
Tarddodd rhyw olau, megis, ar y mur,
Ac yno, gwelais wyneb llawn o gur,
Fel pe bai darnau'r ddelw o garreg wen
Y chwarddodd ef, a minnau, am ei phen,
Y dyddiau gynt, efô o'i farn ei hun,
A mi o ddysg a balchder rheswm dyn―
Fel pe bai honno yn araf wisgo cnawd,
A'r darnau coll yn tyfu ar y groes,
Nes bod y drem, a'r loes,
Yn llosgi popeth o'n heneidiau tlawd
Ond addfwyn ofid. Gwelais law fy nhad
Yn disgyn wrth ei ystlys megis plwm,
Ac yntau'n syrthio eilwaith ar ei lin,
A llef fel toriad calon ar ei fin.
Penlinais innau. Aeth fy nwylo ynghlwm.
A safodd Rhywun rhyngom? Pwy a wad?
Ni ddwedodd ef ond "O, fy machgen tlawd!"
Na minnau unpeth onid "O, fy nhad!"
A'r Trydydd—brithgof cymhleth gïau'r cnawd?...