Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AM ENNYD

A'r gwynt yn ysgythru'r blanhigfa
Sy'n tyfu o amgylch y plas
A saif ar y fan lle'r oedd trigfa
Ei hendaid, pan oedd yn was,
Cyrhaeddodd i'r tŷ yn flinedig,
A mosiwn y modur o hyd
Yn troi'n ei ymennydd lluddedig
Hyd nad oedd y dodrefn drud
Fel pe baent yn rhuthro heibio
Fel gwrychoedd a theios a choed,
A Dewin yr Oes wedi'u rheibio
A'i ddawn, o bu reibio erioed;
Eisteddodd i geisio arafu
Gwylltineb ei daith i gyd,
Fel na bai i'w brys ei anafu
A'i hyrddio dros ymyl y byd.

A dengmil o bunnau sychion
I'w hennill ar waith y dydd,
Yng nghanol ei gelfi gwychion
Paham na bai weithion yn rhydd?
Eisteddodd wrth fwrdd y cinio,
A phob rhyw wasanaeth yn flin,
O'r manbysg arian-gen, i finio
Yr archwaeth oedd bŵl, at y gwin;