Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Mor gymysg yw calon dyn!—
Ond duai yr wybren yn llwyrach,
A chrynai'r holl ddyffryn ei hun.
III
I waelod y pentref rhedodd,
Ac yno, yng nghanol y mwg,
'Roedd cannoedd yn rhuthro, a chredodd
Weld llygaid ar dân gan wg;
Ond nid oedd dim un i'w ddirmygu,
Na'i weld, mwy na'r sbwriel mân—
'Roed pumcant o Ddynion yn mygu
I lawr yn y tawch a'r tân.
Gwelodd y merched llymion
Yn mynd fel ysbrydion lu,
A thraed mewn esgidiau trymion
Yn crensian y diamwnd du;
Plant troednoeth heibio'n dylifo,
Ag awr wedi eu gwneuthur yn hen,—
'Doedd briw ar y troed ddim yn brifo,
Na syrthio'n dwyn gwaedd na gwên.
O ddyffryn i ddyffryn, heb ballu,
Dylifai Brawdoliaeth Dyn,
Dewrder a phrofiad a gallu,
Tanbaid waed Bywyd ei hun.