Prawfddarllenwyd y dudalen hon
I lawr lle'r oedd Angau ofnadwy
Yn llosgi ei ebyrth â thân,
Rhuthrai Brawdoliaeth i'r adwy,
Heb faner, na chorn, na chân;
A hwythau, wŷr mawr yr aur melyn,
Datodent linynnau'r pwrs,
I leddfu difrod y gelyn-
Nes swyno'r wasg drannoeth, wrth gwrs.
IV
Gerwin a hir a fu'r chwilio,
A dewr fu Brawdoliaeth Dyn,
A milo obeithion yn cilio
O fodfedd i fodfedd, bob un,
Nes iddynt o'r diwedd drengi
Ar unwaith, ryw noson hir,
Ac i Un Anobaith sengi
Ar sarn o galonnau îr.
Trwy ganol y boen ddileferydd,
Trwy ganol y gofid mud,
Y crwydrai Brawdoliaeth, heb gerydd
At wallgof na phechod y byd.
Ac yno, yng nghanol y cyni,
'Roedd Un fu wrth galon y byd,
A wybu ei syrthni a'i ynni,
A'i gariad a'i gas i gyd;