WRTH EU FFRWYTHAU
Garw oedd ei wyneb, a chorniog ei law
(Ysgydwais hi, do, syr, er gwaethaf y baw);
Cerddai'n ddidaro a thrwsgl hyd y dre,
Fel un cynefin â llawer lle.
Bu'n cysgu noswaith ym môn y clawdd—
Yno, mae gorwedd a chodi'n hawdd;
Y cwbl oedd ganddo oedd dimai neu ddwy
I dorri cryn newyn, a syched oedd fwy.
Prin oedd ei eiriau, a chras ei lais,
Gwybod cyfeiriad y ffordd oedd ei gais;
Clywodd yn rhywle fod gwaith ger y dref,
Lle'r oedd ar wareiddiad ei eisiau ef.
Atebais. Aeth yntau i'r meysydd draw,
Lle'r ydoedd y rhwbel a chaib a rhaw,
A chyn codi'r barrug, 'roedd yntau'n un
O fyddin y fatog a'r ordd a'r cŷn.
Ei freichiau noethion—nid eiddo grys—
Cyhyrog oeddynt, a gwlyb o chwŷs;
Yn llawn i fyny, yn wag i lawr,
Ni safai ei ferfa funud mewn awr.