Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar ucha'r helynt, i'r lluest daw
Y gair fod plentyn yn gorff ger llaw,
A'r tad, yng nghanol y dadwrdd i gyd,
Sibryda, "Y bachgen!" a throi yn fud.

A'r estron olaf yn cofio'r cig
A roes ei gymydog llygatgam, dig,
Trwy ganol y siarad a'r sŵn di-daw,
Mae'n mynd o gwmpas a'i gap yn ei law.

Mae pawb yn estyn ei law yn chwap
A hanner tâl wythnos pob un yn y cap;
Ni phaid y dadwrdd, ni dderfydd y broch
(Bydd rhai, syr, yn wylo drwy dyngu'n groch).