Prawfddarllenwyd y dudalen hon
CWYMP CAERSALEM
Caersalem lân, Caersalem!
Gwelir hi fel disglair em,
A'r haul yn troi heolydd
Hon yn dân pan weno dydd;
Heulwen dyner yn felyn donnau
O esmwyth aur y sy am ei thyrau;
Moriah'n yr awyr mor wyn a'r ewyn
Yn neidio i'r glas fel o ddyfnder y glyn;
Addurn pob dawn gelfyddyd,
Gem pob un o gampau byd.
II
Ust ennyd! Dwys y tonna
Rhyw wag su hir; agoshâ;
Rhed ymhell, fel rhuad môr
Cryg, o gwrr creigiog oror,
Yna taw. Yr ennyd hon,
Y gwelir chwith argoelion—
Am ael y Deml, cwmwl du
Mal adain sy'n ymledu,
Ac ar len yr wybrennydd,
Dulas ŵg a dial sydd.
Fel gwynt y gogledd o'i unigeddau
Ar ei hynt pan ollynger yntau,