A hithau'r nos fel i'r ether yn nawsio
O ryw le, na bu wawr i'w oleuo,
A mwng yr hwyr am eang ororau
Yn nyddu'i laith, ebonaidd lywethau,
E ddaeth rhyw hir, ddieithr hedd
I'n daear, megis diwedd
Oes, a wybu ddwys obaith,
Ar dristion amheuon maith;
Ni wylai'r môr islaw ar y marian,
Ni rygnai'i ro, na'i gregin, na'i raean;
Ni ddôi y gwynt yn anniddig, yntau,
Na chwa i ryw igian rhwng drain a chreigiau;
Angau, a'r mawr ddistawrwydd,
Ni suai nos yn ei ŵydd!
Ar ddidro yr oedd Hydref,
Oerwyd ei waed a'i wrid ef;
Ac yno'n gêl, dan y sêr trybelid,
Marw a fu ef heb furmur o ofid;
Oddi ar wŷdd bwriodd ei aur, oedd barod,
O flaen ias gaeaf, fel unnos gawod;
Ildiodd olud ei ddeilos
A'i stôr yn awr ddistaw'r nos;
Dros y tir yn ddidrwst aeth
Lifrai welw ei farwolaeth;
A'r bore, llathrai barrug
Fel dur graen ar flodau'r grug!