Prawfddarllenwyd y dudalen hon
GWLAD HUD
Ym moreddydd pell fy mreuddwyd
Imi'r ydoedd man fel nefoedd;
Pob rhyfeddod yno'n hanfod,
A'r hen ddaear hon oedd ieuanc;
A'm cyfoedydd yn y coedydd,
Mi ganfuum a gwybuum
Ryfeddodau lledrith fodau;
Y pryd hynny, nid oedd synnu
Eto'n wendid nac yn ffoledd,
Namyn coledd pob rhyw lendid
A rhyfeddod ar a fyddai.
Byddai yno bob eidduniad-
Yno gwelid llun ag olion
Mwyn hudolion, man y delid;
Ol y Tylwyth Teg yn gylchau,
Sôn ysbrydion bro unigrwydd;
Seiniau meinion tannau mwynion
Nas clyw unblaid onid enaid
Na ŵyr lithio na rhagrithio,
Na difwyno, na difenwi,
Namyn hanfod mewn rhyfeddod
Fyth yn dirion ac yn wirion.