Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Gwirion hefyd oedd y gware
Hwyr a bore fyddai yno,
Lle bu genni dan ganghenni
Fan a garwn, fwyna goror,
Dan dlws wead dulas ywen,
A lawnt werddlas yn ei gwmpas;
Yno a'r manod ar y mynydd,
Gwelais glaerwyn Glychau Mebyn,
A gwrandewais oni chlywais
Hwy yn canu i'm diddanu,
Emau gwynion, am y gwanwyn.
Wanwyn, pan ddoi addwyn ddyddiau,
Galwai'r blodau at ei gilydd,
Torrai gloau eu trigleoedd,
O'u tywyllwch neidient allan;
Dôi Briallu yno i wenu,
Coch a gwyn a brith a melyn;
Briallu Mair ym môn y clawdd,
A'r Geden Werdd a'r Gadwyn Aur;
Ac wrth y ddôr yn swil ymagor,
Rhos bach gwynion a melynion;
Dail Cyrn hirion, gloew-wyrdd, irion,
Hen Wr peraidd ger y pared,
Mwsogl hefyd, Mwsg a Lafant,
A Drysïen draw, a'u sawyr