Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/161

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gyda'r hwyr yn brwysgo'r awyr;
Ffiled Fair yn rhuban disglair,
Rhes fach fain o Falchter Llundain,
Hwythau'r Cennin Pedr yn edrych
Yno megis sêr disberod,
Haid, am ennyd wedi mynnu
Gado'u rhod am goed yr adar.

Adar To, fe ddeuent yno,
Gnafon bach na bu ddigrifach,
Yn lladron hy o gylch y tŷ,
Neu yn y llaid yn chwarae'n llon—
Diau, gwarthus digio wrthyn
Rhag digrifed fydd eu gweled!
Dacw fo o dan y bondo
Yn llygadu a phen-gamu,
Ac yn rhegi'r ci neu'r hogyn
Draw a oedodd ei ladradau !
Bod rhwng dynyn ag ederyn
Yw Llwyd y To, lle bynnag y bo,
Hy ysbeiliwr, ymrysonwr,
Dewr ei fenter, budr ei fantell;
Doed a ddel, bydd ef ddiogel,
Bwyd a fynn, doed byd a fynno.

Yno, rhwydd y dôi Bronrhuddyn
At fy nhroed o gwrr y man-goed;
Nid un hy oedd ef er hynny,