Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ond un diddig a charedig,
A gwaed Iesu ar ei fanblu,
Am fod iddo, gan dosturio,
Dynnu'r pigau llym eu blaenau
A'i ylfin main o'r goron ddrain.
Hyd y llwyn dôi Llinos Felen,
Ac o bell y Brith ei Asgell;
Yntau'r dewryn o Benlöyn,
Main ei wich a chwim ei adain;
Bronfraith falch, amheus Fwyalchen,
Mwyn gantorion tiroedd anial,
A'u celfyddyd yn eu rhyddid,
Nid i blesio nwydau blysig
Na difyrru nwyd oferedd,
Onid awen na fynn dewi,
Nwyd gynhenid cân ei hunan.
A'r Dryw ar dro, gwibiai heibio,
Bach fel ewin, doeth fel dewin,—
Clywsoch sôn am ei orchestion
A'r adar gynt yn fawr eu helynt
Am gael un yn frenin arnun;
Canys gan y côr bu gyngor
Mai a hedai uchaf fyddai
Deyrn nifer adar nefoedd.
Daeth yr adar fore cynnar,
Taer ymroesant i'r ymryson;