Blodau'r Gwynt, a gwelwed oeddynt!
Yntau, loywgain Lygad Ebrill,
Fel dafn aur tawdd ar fôn y clawdd;
A'r perthi a'r drain yn firain we
O borffor wrid a glendid gwyn.
Ar y llethr y llathrai ffynnon,
Gloyw oedd fel haul y nefoedd;
Helyg melyn a braith gelyn
Yn ei thoi, a thair eithinen;
Ar y ffin 'roedd Gwaew'r Brenin
Bob yn ail a'r Clychau Bugail;
Cennin y Brain a brwyd o Erwain;
Llannerch las oedd yn ei chwmpas,
Llwybyr troed oedd rhwng y man-goed,
Rhedyn mân ym min y geulan;
Yno hidlai y Fanhadlen
Olud eiliw mêl y diliau,
A su'r gwenyn, ddiwyd emyn,
Yn ei brigau megis lleisiau
O eithafoedd pell ganrifoedd,
Neu leferydd anwel feirwon
Ar ein clustiau weithiau'n torri
O baradwys, trwy barwydydd
Eangderau a phellterau,
Fel hudoliaeth rhyw beroriaeth
A bair lawio dwys bêr lewyg
Ar ddyn i gyd, gorff ag ysbryd,
Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/171
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon