Prawfddarllenwyd y dudalen hon
III
Gwres heulwen deg risialaidd,
Dail, wybr wen heb anadl, braidd ;
Grŵn gwan, pan gronnai gwenyn
O flodau'r haf fel drwy'u hun;
Nodau mân y piano
Drwy y drws o dro i dro;
Maith, araf, esmwyth oriau,
Swyn oedfa nos yn dyfnhau;
Taran draw yn torri'n drom,
Llewych tres lluched trosom;
Ond am fyd, na dim a fo,
Ni synnir, canys heno,
O enaid un, dir nad â
Nwyd bêr "Mairin de Barra."
IV
Owmal haul am li heli;
Iasau o liw is ei li;
Peintio'r drum a'r pentir draw
A'i ddihalog gudd ddwylaw,
Yr oedd rhyw ysbryd, a'i rin
Am ororau môr Erin;
Hithau'r dref a'i thai ar dro,
Dan haen o hyd yn huno,
Ag ynys greigiog, unig,
Yn hun drom y nawn a drig;