Prawfddarllenwyd y dudalen hon
A dau fry—a difyr oedd,—
With ddrysau gwyrth yr oesoedd,
Yn gwrando yno ennyd
Ar ddewin clêr bore'r byd
Yn deongl enaid awen
Ynys hud a'i hanes hen,
Hen gyfoeth hoen a gofwy
Y dyddiau gynt iddynt hwy—
Awr heb wae o oriau byd,
Awr a fu braw o fywyd !