Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Y CYFARWYDD
ER COF AM W.J.
Dau lygad loywon, ag wyneb llon,
Cof oedd lawn o drysorau hen,
Chwerthin hyotlach na'i eiriau, bron,
A rhyfedd ystyr mewn dim ond gwên.
Carai chwedleuon ei dadau gynt,
Arglwydd oedd ef ar ddiderfyn stôr—
Calon y don a chyfaredd y gwynt,
Ysbryd y mynydd ac enaid y môr.
Neithiwyr, a'i lygaid mor loyw ag erioed,
Adref o olwg y môr y daeth,
Heb boen hir glefyd, na thristwch oed,
Dywedodd ei stori, ac yna, aeth.